P-03-298 Cyllid ar gyfer darparu adnoddau Cymraeg ar gyfer pobl â dyslecsia yng Nghymru

Geiriad y ddeiseb

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i ariannu Dyslecsia Cymru fel y gall y mudiad ddatblygu rhai o’r adnoddau a  argymhellir yn Adroddiad y Pwyllgor Menter a Dysgu (Gorffennaf 2008 a’r adroddiad dilynol ym mis Hydref 2009) 'Cymorth i bobl â Dyslecsia yng Nghymru’, gan gynnwys prawf sgrinio Cymraeg, adnoddau pwrpasol a phriodol Cymraeg a hefyd cyllido costau llinell gymorth rhadffôn Dyslecsia Cymru.

 

Linc i’r ddeiseb: http://www.cynulliadcymru.org/gethome/e-petitions-old/admissible-pet/p-03-298.htm

 

Cynigwyd gan: Dyslecsia Cymru

 

Nifer y llofnodion: 151

 

Y wybodaeth ddiweddaraf:  Cafwyd gohebiaeth gan y Gweinidog dros Addysg a Sgiliau a chan y deisebydd.